- Advertisement -
Home Newyddion Lle Cyflogwr o orllewin Cymru wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru...

Cyflogwr o orllewin Cymru wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru 2026

0
13
- Advertisement -

Mae Gyrfa Cymru wedi cyhoeddi enwau wyth enillydd Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2026 mewn seremoni a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2026 yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Yng ngorllewin Cymru, mae un cyflogwr wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad sylweddol at addysg gyrfaoedd:

  • Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod sefydliadau sydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau wrth weithio gydag ysgolion i ddarparu profiadau gyrfaoedd o ansawdd uchel, deniadol ac ystyrlon sy’n helpu disgyblion i gysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â chyfleoedd yn y byd go iawn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r cyflogwyr buddugol wedi darparu gweithdai, mentora, ymweliadau â gweithleoedd ac ystod eang o weithgareddau a gynlluniwyd i ysbrydoli disgyblion, ehangu eu gorwelion a’u cefnogi i wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol.

 

Datgelwyd yr enillwyr, sy’n dod o leoliadau ledled Cymru, yn fyw gan gyflwynydd y digwyddiad, Sian Lloyd.

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Rydym yn falch iawn o ddathlu enillwyr eleni, y mae eu cefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i bobl ifanc ledled Cymru. Mae eu parodrwydd i rannu eu hamser, eu gwybodaeth a’u profiad yn chwarae rhan hanfodol wrth ymgysylltu â disgyblion a’u helpu i archwilio llwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt a deall byd gwaith.

 

“Ar fy rhan i a phawb yn Gyrfa Cymru, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf a’n diolch i’n holl enillwyr ac enwebeion am y gefnogaeth amhrisiadwy maen nhw’n ei darparu.”

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant: “Llongyfarchiadau i holl enillwyr ac enwebeion Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr eleni. Mae’r sefydliadau hyn yn dangos pŵer partneriaeth rhwng cyflogwyr ac ysgolion wrth agor drysau i’n pobl ifanc.

 

“Rwy’n falch o weld Atlas Copco yn cael ei gydnabod fel y newydd-ddyfodiad gorau – fel fy nghyn-gyflogwr, rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol y gwerth maen nhw’n ei roi ar ddatblygu talent ifanc. Drwy rannu eu harbenigedd a darparu profiadau o’r byd go iawn, maen nhw’n helpu i adeiladu gweithlu medrus a hyderus ar gyfer dyfodol Cymru.”

 

Dywedodd Victoria Williams, Rheolwr Gyrfaoedd, Ehangu Mynediad a Phrofiad Gwaith a Melanie Lloyd, Swyddog Cymorth Ehangu Mynediad a Chytundeb Anrhydeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Rydym wrth ein bodd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael ei gydnabod fel Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle’. Mae cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu hyder yn y Gymraeg ac i weld ei gwerth go iawn ym maes gofal iechyd, yn rhywbeth rydyn ni’n angerddol iawn amdano. Drwy ein partneriaethau rhwng ysgolion a cholegau, gwaith ehangu mynediad a rhaglenni prentisiaeth, ein nod yw creu cyfleoedd sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn dathlu pwysigrwydd dwyieithrwydd o fewn GIG Cymru. Rydym yn falch o gael cydweithio â Gyrfa Cymru i helpu pobl ifanc i fagu hyder, codi dyheadau a gweld y GIG fel lle croesawgar a chynhwysol i ddechrau eu gyrfa. Mae’n fraint cael chwarae rhan yn y broses o helpu pobl ifanc i archwilio eu talentau, magu eu hyder a’u grymuso am eu dyfodol.”

 

Dyma’r rhestr lawn o gategorïau ac enillwyr:

 

Gwobr Cyflawniad Eithriadol:
Hafren Dyfrdwy

 

Y Newydd-ddyfodiad Gorau:
Atlas Copco

 

Y Berthynas Barhaus Orau ag Ysgol:
Voco Dewi Sant, Caerdydd

 

Y Cyflogwr Profiad Gwaith Mwyaf Cefnogol:
Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian

 

Y Busnes Bach Mwyaf Cefnogol:
Caffi’r Cwt Potio

 

Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Cefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net:
Morlais

 

Cyfraniad Personol Eithriadol:
Conor Lynn – Cyfreithwyr Berry Smith

 

Gallwch ddarllen mwy am y Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr ar wefan Gyrfa Cymru.

 

Am ragor o wybodaeth am ymgysylltiad cyflogwyr ag ysgolion, ewch i dudalennau cyflogwyr Gyrfa Cymru neu cysylltwch â cyswlltcyflogwyr@gyrfacymru.llyw.cymru.

- Advertisement -

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The Swansea Standard

Previous articleWest Wales employer recognised at the Careers Wales Valued Partner Awards 2026
Next articleOp Chirk: Over thirty arrested in Swansea and Neath Port Talbot

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

X
X